Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau

Wireless in Wales Museum

Get Adobe Flash player

Atal y Wasg

Bydd yr Amgueddfa ar agor ddydd Llun, 30/04/2018.

 

Mae'r e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

 

 

Mae ein derbyniwr atgynhyrchiol Foulkes yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Wrecsam fel rhan o Arddangosfa Fforwm Treftadaeth Gogledd-Ddwyrain Cymru, “100 o Wrthrychau”, 20/04/18 - 30/06/18.

 

 

 

 

 

Mewngofnodi

Diweddariad misol, Ebrill 2018

Diweddariad misol, Ebrill 2018

 

“Darlledu yn yr 80au ar Radio Havana Cuba” oedd testun Lila Haines pan ddaeth i siarad â ni yn yr Amgueddfa ym mis Chwefror.  Bu’n gweithio ar yr ynys fel gohebydd a newyddiadurwraig ar y darllediadau Iaith Saesneg o 1988 tan 1992, cyfnod o newidiadau gwleidyddol mawr ar draws y byd.  Roedd chwech gorsaf radio cenedlaethol yng Nghuba ar y pryd, a Radio Havana oedd gorsaf swyddogol y llywodraeth, a darlledai mewn naw iaith.  Cafodd Lila gyfle i gyflwyno a golygu’r newyddion ar y radio, mynychu cynadleddau rhyngwladol a chyfarfod â phobl enwog fel Castro ei hun.  Soniodd am y 29,000 o blant a gludwyd i Guba i dderbyn gofal ar ôl ffrwydrad Chernobyl a’r parseli bwyd a anfonwyd i Ddwyrain Ewrop ar ôl Cwymp Mur Berlin yn 1989.  Yn yr un flwyddyn, cosbwyd a dienyddiwyd rhai o bobl blaenllaw Cuba, gan gynnwys Cadfridog Arnaldo Ochoa, am fod yn gysylltiedig â chartelau cyffuriau.  Lila oedd yn cyflwyno’r Newyddion yn fyw ar y radio pan dderbyniodd gyhoeddiad o Washington, yn cyhoeddi dechreuad Rhyfel Cyntaf y Gwlff.  Yn 1991 ymwelodd Nelson Mandela â Chuba ac mae gan Lila lun a dynnodd ohono ar yr achlysur hwnnw.

Ers gadael yr ynys, mae Lila wedi gweithio i’r Cynulliad yng Nghaerdydd ac i Oxfam.  Ar hyn o bryd mae hi’n Gadeirydd Masnach Deg dros Gymru, (edrychwch ar fairtradewales.com) ac yn gweithio ar ei liwt ei hun.  Dyma lun o Lila, gyda Suna oedd ym Merlin pan syrthiodd y Mur!

 

 

Yn ystod cyfnod 20/04/18 - 30/06/18 bydd un o’n radios yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Wrecsam fel rhan o Arddangosfa Fforwm Treftadaeth Gogledd-Ddwyrain Cymru, “100 o Wrthrychau”.  Radio derbyniwr atgynhyrchiol Foulkes ydy o, a wnaethpwyd ac a werthwyd yn Siop Foulkes yn Y Rhyl, tua 1926.  Mae ganddo 4 falf ac mae’n cael ei bweru gan fatris.  Dyma

 lun o’r radio ac o’r siop: 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Croeso cynnes i bawb i’r darlithiau nesaf yn ein cyfres, a gynhelir yn yr Amgueddfa am 7.00 y.h.:

Ebrill 20fed, “Trasiedïau Morwrol yr ‘Ocean Monarch’ a’r ‘Lelia’”, gan Tony Griffiths a Keith Mountain.
Ebrill 27ain, yn Gymraeg, “Yr Efe - T.H. Parry-Williams a'r Isymwybod", gan Ioan Talfryn.
Mai 18fed, “Mwyngloddio yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru”, gan Alan Jones.
Mehefin 15fed, “Darlledu yng Nghymru”, gan Ifor ap Glyn.
Mehefin 22ain, yn Gymraeg, “Effeithiolrwydd a Diogelwch Meddyginiaethau”, gan Dyfrig Hughes.
Bydd ein Bore Coffi a Stondin Blanhigion eleni ar Fehefin 2ail yn Eirianfa, 10.00-12.00, pan fyddwn yn cydweithio â Mind Dyffryn Clwyd ac Amgueddfa Dinbych.

 

Tybed faint ohonoch glywodd Geraint Lloyd, Radio Cymru, yn sgwrsio am Gwefr heb Wifrau efo Ioan Talfryn am 11.30 nos Lun, 19/02/18?  Mae’r clip yn dal ar wefan Radio Cymru.  Mae’n amlwg bod pobl y cyfryngau yn pori trwy’r papurau bro yn rheolaidd. 
 
 
Diolch i’r Bigwn am yr hysbys! 

Diweddarial misol, Mawrth 2018.

Diweddarial misol, Mawrth 2018.

 

Cawsom ddarlith arbennig iawn ar Ionawr 19eg pan ymwelodd John Clark â’r Amgueddfa am yr ail waith i sôn am ei ddiddordeb, Creu Gemwaith.  Rhoddodd fraslun i ni o gefndir hanesyddol metalau, gan gyfeirio yn arbennig at yr Hen Eifftiaid a’u sgiliau rhyfeddol yn toddi ac yn trin aur i wneud gemwaith ac offer pob dydd 2330 c.c..  Ceir tystiolaeth am hyn mewn lluniau ac hieroglyffigau sydd ar waliau beddau o’r cyfnod.  Yn y rhan o lun o fedd Mereruka isod, gwelir chwech dyn yn chwythu aur. 

 
 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sonioddd John am wahanol fetelau, a’r ffordd i raddio aur.  Esboniodd fod aur pur yn 24 carat, a bod yr aur ‘gwyn’ sy’n boblogaidd ar hyn o bryd, o bosib yn aur 18 carat gyda metel arall, fel arian, wedi ei ychwanegu ato.  Dangosodd luniau o’r modrwyau, tlysau a’r clustdlysau mae wedi eu creu, a roedd hi’n braf i weld ei wraig, Sue, yn gwisgo rhai.  

 

 

 

 

Fel y gwelwch, mae gan yr Amgueddfa Radio Celfyddyd Bop batri eiconig o’r 70au.  Mae’r seinydd yn y llythyren "O" ac mae antena telescopig yn y cefn. 

Mae’n medru derbyn gorsafoedd FM a MW ac roedd yn bosib prynu’r radio mewn coch, glas neu aur.

 

 Bu raid gohirio darlith Ifor ap Glyn ar “Darlledu yng Nghymru” tan Mehefin 15fed.  David Crawford, Curadur yr Amgueddfa, fydd yn traddodi darlith flynyddol David Edward Hughes felly ar Fawrth 16eg, a ‘Datblygiad y Record                                                                                                                     Gramoffôn 78RPM’ fydd ei destun.

 

Dyma’r darlithiau eraill yn y gyfres: 

Ebrill 20fed, “Trasiedïau Morwrol yr ‘Ocean Monarch’ a’r ‘Lelia’”, gan Tony Griffiths a Keith Mountain.

Ebrill 27ain, “Yr Efe - T.H. Parry-Williams a'r Isymwybod", gan Ioan Talfryn.

Mai 18fed, “Mwyngloddio yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru”, gan Alan Jones.

Mae’r darlithiau yn cychwyn am 7.00 y.h. ac mae lluniaeth ysgafn i ddilyn.  

 

Bydd ein Bore Coffi eleni ar Fehefin 2ail yn Eirianfa, 10.00-12.00, pan fyddwn yn cydweithio â Mind Dyffryn Clwyd ac Amgueddfa Dinbych.

Croeso cynnes i bawb.

 

 

Diweddariad Misol, Chwefror 2018

Diweddariad Misol, Chwefror 2018  

 

Mae gan Amgueddfa Gwefr heb Wifrau un derbynnydd teledu, y Bush TV12B sydd â sgrîn naw modfedd, 18 falf a thiwb pelydrau catod.  Dyma’r teledu a welwch fel arfer ar raglenni teledu sy’n dangos bywyd yn y 1950au cynnar.  Roedd ganddo nifer fawr o reolyddion er mwyn rheoli ffocws, disgleirdeb, cyferbyniad ac ati, a roedd rhaid newid y rhain wrth i’r noson fynd yn ei blaen ac wrth i’r cydrannau boethi.

Lansiwyd y derbynnydd teledu yma ym mis Medi 1949 ar yr un adeg â chychwyn Teledu BBC o Sutton Coldfield yng Nghanolbarth Lloegr, y tro cyntaf i deledu gael ei ymestyn oddi allan i Lundain.  Dyluniwyd ef i dderbyn signalau teledu o Sutton Coldfield ar sianel 4 VHF yn unig, a dim ond yn yr ardal honno y gweithiai.  Erbyn 1950, roedd y BBC yn dechrau sefydlu rhwydwaith o orsafoedd teledu ar draws y wlad, a chynhyrchodd Bush y TV22 a oedd yn medru derbyn teledu BBC o unrhyw le -  ar sianel 5 VHF yng Nghaerdydd er enghraifft.  

 

 

 

 

 

 

Yn 1955, cychwynnodd darlledu annibynnol ar sianeli newydd, 6 i 13, a golygai hyn na allai’r hen set deledu BBC yn unig, dderbyn y darllediadau newydd.  Felly cynhyrchwyd trawsnewidydd i’w blygio i mewn i’r teledu, fel ei fod yn medru derbyn ITV.  Dyma lun un ar gyfer set deledu Murphy.

 

 

Croeso cynnes i bawb i’r darlithiau nesaf yn ein cyfres:

Chwefror 16eg, “Darlledu yn yr 80au ar Radio Havana Cuba”, gan Lila Haines.

Mawrth 16eg, “Datblygiad y Record Gramoffôn 78RPM", gan David Crawford, Curadur yr Amgueddfa.  Darlith flynyddol David Edward Hughes fydd hon.

Ebrill 20fed, “Trasiedïau Morwrol yr ‘Ocean Monarch’ a’r ‘Lelia’”, gan Tony Griffiths a Keith Mountain.

Ebrill 27ain, darlith Gymraeg, "Yr Efe - T.H. Parry-Williams a'r Isymwybod", gan Ioan Talfryn.

Mai 18fed, “Mwyngloddio yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru”, gan Alan Jones.

Mae’r darlithiau yn cychwyn am 7.00 y.h. ac mae lluniaeth ysgafn i ddilyn. 

 

 

Diweddariad misol, Ionawr 2018

 Diweddariad Misol, Ionawr 2018  

 

Bu’r cyfnod cyn y Nadolig yn brysur iawn yn yr Amgueddfa. 

 

Ar Dachwedd 17eg, daeth Cliff Kearns a Clwyd Wynne i siarad â ni am lyfr newydd Cliff, ‘A Town at War – Denbigh and the Western Front’.  Llyfr wedi ei seilio ar brofiadau ei dad, Joe, yn y Rhyfel Byd Cyntaf yw ond llyfr sy’n amlygu’r berthynas oedd rhwng Dinbych a Ffrynt y Gorllewin, er mor bell oedden nhw oddi wrth ei gilydd.  Roedd Joseph Kearns yn newyddiadurwr dan hyfforddiant i’r Free Press ac ymunodd â’r Ffiwsilwyr Cymreig pan oedd yn 16 oed.  Oherwydd ei sgiliau newyddiadurol a’i allu i ddefnyddio llaw-fer a chod Morse cafodd ei anfon gyda’r Uwch-Swyddogion i safleodd blaen y brwydro.  O fewn y flwyddyn, roedd wedi cael ei ladd.  Cofnodir ei enw mewn dyfyniad o bapur y Free Press, Rhagfyr 4ydd, 1915, gyda 187 o feibion eraill yr ardal a laddwyd yn y Rhyfel Mawr.  

 

‘Yr Ymgyrch am S4C’ oedd testun Angharad Tomos pan ymwelodd â’r Amgueddfa ar nos Wener, Tachwedd 24ain.  Soniodd am ei phrofiad o gyrraedd Prifysgol Aberystwyth ar ganol ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i gael sianel deledu Gymraeg i Gymru.  Doedd ganddi ddim diddordeb yn y byd darlledu, ond gan fod Saunders Lewis wedi dweud mai’r “Teledu yw pennaf lleiddiad y Gymraeg” penderfynodd fod rhaid iddi hi ymuno â’r gweithredu.  Ei thasg gyntaf, ar ôl bod yn y Brifysgol am bum niwrnod, oedd dringo mast teledu Crystal Palace yn Llundain a chael ei charcharu am bum niwrnod.  Yn 1977 torrodd i mewn i drosglwyddydd teledu Winter Hill, Manceinion, ac arestiwyd hi gan yr Heddlu.  Eu cwestiwn nhw iddi oedd, “Beth yw eich cysylltiad chi â’r IRA?”  Ar ôl refferendwm 1979 penderfynodd Gwynfor Evans ymprydio at farwolaeth os na chai Cymru sianel Gymraeg a bu pobl Cymru yn gwrthod talu eu trwyddedau teledu.  O’r herwydd penderfynodd Prif Weinidog San Steffan, Margaret Thatcher, ganiatáu sefydlu pedwaredd sianel a fyddai’n cynnwys rhaglenni Cymraeg.  Cychwynnwyd S4C ar nos Wener, Tachwedd 1af, 1982, a mawr fu’r dathlu.  Ond, erbyn heddiw, oherwydd y diffyg cynnydd sydd wedi dilyn y cwtogi arianol, mae’r ymgyrchu wedi ail-ddechrau, ac mae rhai yn gwrthod talu eu trwyddedau teledu unwaith eto.  Maen nhw’n hawlio ei bod hi’n ‘hen bryd datganoli darlledu i Gymru’.

  

 

 

 Diolch i bawb a gefnogodd ein Bore Coffi ar Ragfyr 2ail.  Codwyd dros £600 i MaryDei, Mind Dyffryn Clwyd a’r Amgueddfa.

 

 

Dyma’r darlithiau nesaf yn ein cyfres ar gyfer y flwyddyn newydd:

Ionawr 19eg, “Creu Gemau”, gan John Clark.

Chwefror 16eg, “Darlledu yn yr 80au ar Radio Havana Cuba”, gan Lila Haines.

Mawrth 16eg, “Darlledu yng Nghymru”, gan Ifor ap Glyn.  Darlith flynyddol David Edward Hughes fydd hon.

Ebrill 20fed, “Trasiedïau Morwrol yr ‘Ocean Monarch’ a’r ‘Lelia’”, gan Tony Griffiths a Keith Mountain.

Ebrill 27ain, darlith Gymraeg gan Ioan Talfryn ar Syr T. H. Parry-Williams.

Mae’r darlithiau yn cychwyn am 7.00 y.h. ac mae lluniaeth ysgafn i ddilyn.  Croeso cynnes i bawb.

 

Digwyddiadau

Mae'r Amgueddfa yn trefnu sgyrsiau misol rheolaidd yn y Saesneg neu'n ddwyieithog.  Rydym hefyd yn trefnu nifer o sgyrsiau yn y Gymraeg bob blwyddyn. Mae'r sgyrsiau fel arfer ar ddydd Gwener ac yn dechrau am7y.h. Rhestrir isod y digwyddiadau gyda'r sgyrsiau wedi eu hamlygu.

 

Ebrill 27fed, 19:00 "Yr Efe -T.H. Parry-Williams a'r isymwybod", darlith gan Ioan Talfryn

 

 

 

 

 

 

 

 

Prosiect CDL

Daeth y prosiect 2 flynedd i ddatblygu ein darpariaeth dysgu i ben yn Ebrill 2013.  Fe'i arianwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a roedd yn ein galluogi i gael 3 aelod o staff rhan amser i ddatblygu adnoddau dysgu, gwella arddangosfeydd dysgu, trefnu digwyddiadau ac ymweliadau â'r Amgueddfa ac ati.  Mae mwy o fanylion ar gael drwy glicio ar Prosiectau yn y ddewislen uchod neu glicio yma.Lottery Logo