Diweddariad Misol, Chwefror 2018
Diweddariad Misol, Chwefror 2018
Mae gan Amgueddfa Gwefr heb Wifrau un derbynnydd teledu, y Bush TV12B sydd â sgrîn naw modfedd, 18 falf a thiwb pelydrau catod. Dyma’r teledu a welwch fel arfer ar raglenni teledu sy’n dangos bywyd yn y 1950au cynnar. Roedd ganddo nifer fawr o reolyddion er mwyn rheoli ffocws, disgleirdeb, cyferbyniad ac ati, a roedd rhaid newid y rhain wrth i’r noson fynd yn ei blaen ac wrth i’r cydrannau boethi.
Lansiwyd y derbynnydd teledu yma ym mis Medi 1949 ar yr un adeg â chychwyn Teledu BBC o Sutton Coldfield yng Nghanolbarth Lloegr, y tro cyntaf i deledu gael ei ymestyn oddi allan i Lundain. Dyluniwyd ef i dderbyn signalau teledu o Sutton Coldfield ar sianel 4 VHF yn unig, a dim ond yn yr ardal honno y gweithiai. Erbyn 1950, roedd y BBC yn dechrau sefydlu rhwydwaith o orsafoedd teledu ar draws y wlad, a chynhyrchodd Bush y TV22 a oedd yn medru derbyn teledu BBC o unrhyw le - ar sianel 5 VHF yng Nghaerdydd er enghraifft.
Yn 1955, cychwynnodd darlledu annibynnol ar sianeli newydd, 6 i 13, a golygai hyn na allai’r hen set deledu BBC yn unig, dderbyn y darllediadau newydd. Felly cynhyrchwyd trawsnewidydd i’w blygio i mewn i’r teledu, fel ei fod yn medru derbyn ITV. Dyma lun un ar gyfer set deledu Murphy.
Croeso cynnes i bawb i’r darlithiau nesaf yn ein cyfres:
Chwefror 16eg, “Darlledu yn yr 80au ar Radio Havana Cuba”, gan Lila Haines.
Mawrth 16eg, “Datblygiad y Record Gramoffôn 78RPM", gan David Crawford, Curadur yr Amgueddfa. Darlith flynyddol David Edward Hughes fydd hon.
Ebrill 20fed, “Trasiedïau Morwrol yr ‘Ocean Monarch’ a’r ‘Lelia’”, gan Tony Griffiths a Keith Mountain.
Ebrill 27ain, darlith Gymraeg, "Yr Efe - T.H. Parry-Williams a'r Isymwybod", gan Ioan Talfryn.
Mai 18fed, “Mwyngloddio yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru”, gan Alan Jones.
Mae’r darlithiau yn cychwyn am 7.00 y.h. ac mae lluniaeth ysgafn i ddilyn.